Neidio i'r prif gynnwy
Scott Cawley MBE

Cydlynydd Cenedlaethol Troed Diabetig i Gymru a Phodiatrydd Arweiniol Strategol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Amdanaf i

Cydlynydd Cenedlaethol Troed Diabetig i Gymru a Phodiatrydd Arweiniol Strategol

Rwy’n Gydlynydd Cenedlaethol Troed Diabetig i Gymru ac yn Bodiatrydd Arweiniol Strategol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac mae cyfrifoldeb gennyf i ddehongli a datblygu ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fodelau gofal i wella canlyniadau i gleifion sydd â chlefyd troed diabetig. Rwy’n gweithio’n agos gyda Diabetes UK Cymru ac rwyf wedi ymgymryd â’u rhaglen eiriolwr clinigol.  

Rwy’n arbennig o frwd i weld sut y gallwn ni drosglwyddo’n gwybodaeth fel gweithwyr proffesiynol i’n cleifion i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder angenrheidiol i wneud dewisiadau mwy gwbydous am eu hiechyd mewn amgylchedd pendant i gyd-gynhyrchu. Mae hyn wedi arwain at gydweithio’n agos ar sail Cymru gyfan a chyda fy nghydweithiwr Mr David Hughes MBE i gyflwyno Actifadu Cleifion i’r ymgynghoriadau gyda chleifion sy’n mynychu gwasanaethau podiatreg.  

Cefais MBE yn rhestr anrhydeddau’r flwyddyn newydd 2020 am wasanaethau i bobl sydd â Diabetes.