Neidio i'r prif gynnwy

Lansiad Dangosfwrdd Data Cardiaidd

Crynodeb:

Bydd Dr. Jonathan Goodfellow yn lansio'r Dangosfwrdd Data Cardiaidd, y diweddaraf mewn cyfres o ddangosfyrddau data Gwerth mewn Iechyd sy'n ceisio dod â data gweithgaredd a chanlyniadau ynghyd o bob rhan o Gymru. Bydd cynrychiolwyr yn gallu archwilio gwahanol elfennau'r dangosfwrdd data.

 

Bydd cynrychiolwyr hefyd yn clywed enghreifftiau o ble mae egwyddorion gofal iechyd yn seiliedig ar werth yn cael eu defnyddio i drawsnewid gwasanaeth, gan arwain at ddiagnosis cynnar a chanlyniadau gwell, a ddarperir mewn ffordd sy'n gynaliadwy yn ariannol.

Siaradwyr:

Jonathan Goodfellow, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Rhwydwaith Cardiaidd

Sally Cox, Prif Arbenigwr (Gwybodaeth), Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru