Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi Canser y Colon a'r Rhefr gyda chynnyrch data cenedlaethol newydd

Y Dangosfwrdd Canser y Colon a’r Rhefr Cenedlaethol yw'r nawfed mewn cyfres o gynhyrchion gwybodaeth i'w lansio gan Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru. Fel gyda'n holl gynhyrchion gwybodaeth, maent wedi'u cynllunio i'n helpu i ddeall beth sy'n digwydd mewn system benodol a chyflwyno cyfleoedd i ni gynyddu gwerth i gleifion.

Datblygwyd ein cynnyrch data diweddaraf ar y cyd rhwng timau o Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru a chlinigwyr o Fenter Canser y Coluddyn.    I ddechrau, nod y Dangosfwrdd Canser y Colon a’r Rhefr Cenedlaethol yw bod yn offeryn sy'n cefnogi clinigwyr i gyflenwi data cyflawn i Archwiliad Cenedlaethol Canser y Coluddyn (NBOCA), drwy dynnu sylw at unrhyw fylchau yn y data yn y saith maes data allweddol a ddefnyddir ar gyfer yr archwiliad, gan alluogi clinigwyr felly i nodi meysydd y mae angen mewnbwn ychwanegol arnynt yn hawdd.

Rydym yn disgwyl i glinigwyr sy'n defnyddio'r dangosfwrdd roi adborth ar y fersiwn gyntaf hon yn ystod yr wythnosau nesaf, a fydd yn llywio datblygiadau sydd eisoes ar y gweill ymhellach. Y cam nesaf fydd darparu data byw ar Berfformiad y Llwybr Canser Sengl, metrigau ansawdd llawfeddygol ac oncolegol a data goroesi. Bydd yr ail gam hwn yn cael ei gwblhau yn ystod ail hanner 2022.