Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad ar COVID hir yn helpu i sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer Adferiad

Mae’r adroddiad diweddaraf sy’n gwerthuso gwasanaethau Adferiad ledled Cymru wedi canfod eu bod yn parhau i gefnogi pobl sy’n dioddef o COVID hir, gyda chleifion yn nodi ansawdd bywyd gwell adeg eu rhyddhau o’r gwasanaeth o gymharu â’r adeg y cânt eu hatgyfeirio.

Dyma’r pedwerydd adroddiad gan Ganolfan Ymchwil Technoleg Gofal Iechyd Cedar mewn cydweithrediad â Chanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru i’r gwasanaethau COVID hir sydd ar gael ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru. Nod rhaglen Adferiad oedd cyflwyno cyfres newydd o lwybrau cleifion, ynghyd â gwasanaethau adsefydlu sylfaenol a chymunedol newydd neu estynedig i gefnogi pobl â COVID hir.

Mae'r canfyddiadau diweddaraf yn seiliedig ar fesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs) a mesurau profiad a adroddir gan gleifion (PREMs). 

Gofynnwyd cwestiynau i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau COVID hir amrywiol yng Nghymru am eu hiechyd cyffredinol, a gawsant eu derbyn i’r ysbyty o ganlyniad i COVID-19 ac a wnaethon nhw ymweld â’u meddyg teulu oherwydd COVID-19.  Yn benodol, gofynnwyd iddyn nhw hefyd am eu profiad o’r gwasanaethau Adferiad a ddefnyddiwyd ganddyn nhw yn ardal eu bwrdd iechyd, tra’n darparu cipolwg cyfredol ar eu symptomau nawr a’u hiechyd yn gyffredinol.

Ar Mawrth 14, cyhoeddodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gynnydd yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau Adferiad o £5m i £8.3m o fis Ebrill 2023, gan ddweud y bydd yr arian ychwanegol yn helpu i sicrhau mynediad teg.

Ariannodd Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru y casgliad data gwreiddiol o'r PROMs a'r PREMs, gyda Cedar yn ymgymryd â gwaith adrodd, dadansoddi data a chasglu data ychwanegol i ddarparu gwerthusiad cwbl annibynnol o'r rhaglen. 

Dywedodd Dr Sally Lewis, Cyfarwyddwr Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru a’r Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Darbodus yn Seiliedig ar Werth:  “Dyma enghraifft wych o PROMs a PREMs ar waith a phwysigrwydd eu casglu a defnyddio’r data i ddeall, yn yr achos hwn, sut mae gwasanaeth neu wasanaethau newydd yn effeithio ar gleifion.

“Roedd y defnydd cyflym o PROMs a PREMs mewn pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau COVID hir yng Nghymru, yn ein galluogi ni i gyd i ddeall effaith y cyflwr ar y cleifion hynny, a’u profiadau o’r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw. 

“Yna’r cwestiwn yw beth ydych chi’n ei wneud gyda’r data rydych chi wedi’u casglu? Mae’r gwaith y mae ein cydweithwyr yn Cedar wedi’i wneud i’w gwerthuso ac i ddangos effaith yr hyn y mae’r data yn ei ddweud wrthym, yn ffactor mawr wrth gyfrannu at y cyllid parhaus a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

“Ar gyfer holl wasanaethau’r GIG yng Nghymru, mae’r enghraifft hon o Adferiad yn dangos gwerth casglu PROMs a PREMs a gallu cyflwyno achos yn seiliedig ar dystiolaeth dros gyllid pellach neu ganlyniadau gwell.”