Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg rhyngwladol yn gofyn i bobl am eu barn am y GIG yng Nghymru

Mae arolwg poblogaeth rhyngwladol, lle mai Cymru yw’r unig wlad gartref i gymryd rhan, yn gofyn i bobl yng Nghymru sut brofiad yw defnyddio’r GIG.

Dyma’r arolwg cyntaf o’i fath ar gyfer GIG Cymru a’i nod yw darganfod mwy am iechyd cyffredinol pobl, ansawdd eu bywyd ac a yw’r gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn diwallu eu hanghenion.

Mae ffocws penodol ar y gofal y mae pobl yn ei gael gan eu practis meddyg teulu o ystyried y pwysau sydd ar y gwasanaeth, a chyda golwg ar ddeall pa adnoddau pellach sydd eu hangen yn y gymuned.

Yn ogystal â Chymru, mae 19 o wledydd o bob cwr o’r byd yn cymryd rhan, sy’n golygu y bydd Cymru’n gallu meincnodi ei hun ochr yn ochr ag eraill. Yn rhyngwladol, bydd y wybodaeth yn rhan o Arolwg Dangosyddion a Adroddir gan Gleifion (PaRIS) y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), neu PaRIS yr OECD yn fyr. Mae’n debyg i arolwg PISA yr OECD, sydd ar gyfer addysg, ac mae Cymru wedi bod yn cymryd rhan yn hynny ers blynyddoedd lawer.

Yng Nghymru, bydd y wybodaeth ar gael i GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i helpu i greu darlun o sut beth yw bywyd i gleifion y GIG.

Yn bwysig ddigon, bydd y data’n helpu i amlygu lle mae angen i wasanaethau’r GIG wella. Mae’n golygu y bydd gan bawb sy’n cymryd rhan yn yr arolwg lais pwysig yn yr hyn sy’n digwydd yn y dyfodol.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am y gofal y mae’r GIG yn ei ddarparu, sut mae’n effeithio ar bobl yng Nghymru a sut mae’n cymharu â gwledydd eraill ledled y byd.

“Bydd y canfyddiadau yn ein helpu i ddeall sut mae pobl yn defnyddio practisau meddygon teulu a sut mae angen i’r GIG barhau i esblygu er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ddarparu’r gofal gorau posibl i bobl ledled Cymru. Rwy’n annog unrhyw un y cysylltir â nhw i gymryd rhan yn yr arolwg i gymryd rhan – bydd eich llais yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal iechyd yng Nghymru.”

Dywedodd Dr Sally Lewis, cyfarwyddwr y Ganolfan Gwerth Cymru mewn Iechyd, sy’n cydlynu’r arolwg ar ran GIG Cymru a Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gwybod y gofynnir i bobl wneud llawer o arolygon, ond mae hwn yn wahanol mewn gwirionedd, mae’r canlyniadau yn mynd i fod mor bwysig, a byddwn i gyd yn elwa ohono.

“Er mwyn ceisio gwneud pethau’n well yn y GIG yng Nghymru, mae angen i ni ddeall beth sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae angen inni ddeall sut brofiad yw hi i bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau GIG.

“Bydd eu meddyliau, eu barn a hefyd y wybodaeth y byddwn yn ei ddarganfod am ansawdd eu bywyd yn ddata hanfodol i ni, wrth i ni gael gwell dealltwriaeth o anghenion iechyd a gofal poblogaeth Cymru.

“Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno i weithio allan sut y gallwn wella canlyniadau i bawb.

“Yn y bôn, rydyn ni’n gofyn i bobl sut beth yw cael gofal gan y GIG yng Nghymru, er mwyn i ni allu gwneud yn siŵr bod pawb yn cael gofal gwell yn y dyfodol.

“Os byddwch yn derbyn llythyr gennym yn gofyn i chi gymryd rhan, byddwn yn eich annog i wneud hynny. Nid yw'n cymryd gormod o amser ac mae'n syml, gyda'r holl atebion yn rhai amlddewis.

“Dim ond am ychydig wythnosau mae’r arolwg ar agor, ac rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib ymateb, felly os byddwch chi’n penderfynu eich bod chi eisiau dweud eich dweud, cofiwch ei anfon yn ôl atom ni cyn gynted ag y gallwch chi.

“Rydym yn gobeithio cynnal yr arolwg hwn eto ymhen ychydig flynyddoedd, ac yna byddwn yn gofyn i bobl newydd gymryd rhan, felly peidiwch â cholli’r cyfle i gael clywed eich llais y tro hwn.”

Bydd tua 80,000 o bobl, dros 45 oed o bob rhan o Gymru, yn derbyn llythyr yn gofyn iddyn nhw gymryd rhan.

Mae disgwyl i ganlyniadau’r arolwg gael eu cyhoeddi yn 2024.