Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi Canser y Colon a'r Rhefr gyda chynnyrch data cenedlaethol newydd

Y Dangosfwrdd Cenedlaethol ar gyfer Canser y Colon a’r Rhefr yw'r nawfed mewn cyfres o gynhyrchion gwybodaeth sydd wedi cael eu lansio gan Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru. Fel gyda'n holl gynhyrchion gwybodaeth, maent wedi'u cynllunio i'n helpu i ddeall beth sy'n digwydd mewn system benodol a chynnig cyfleoedd i ni gynyddu gwerth i gleifion.

Mae ein cynnyrch data diweddaraf wedi’i ddatblygu ar y cyd rhwng timau o Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru a chlinigwyr o Fenter Canser y Coluddyn.    I ddechrau, nod y Dangosfwrdd Cenedlaethol ar gyfer Canser y Colon a’r Rhefr yw bod yn arf sy’n cefnogi clinigwyr i gyflenwi data cyflawn i’r Archwiliad Cenedlaethol o Ganser y Coluddyn (NBOCA), drwy dynnu sylw at unrhyw fylchau mewn data yn y saith maes data allweddol a ddefnyddir ar gyfer yr archwiliad, gan alluogi clinigwyr i nodi meysydd lle mae angen mewnbwn ychwanegol yn hawdd.

Rydym yn disgwyl i glinigwyr sy'n defnyddio'r dangosfwrdd roi adborth ar yr iteriad cyntaf hwn yn ystod yr wythnosau nesaf, a bydd hyn yn helpu i lywio gwaith datblygu sydd eisoes ar y gweill. Y cam nesaf fydd darparu data byw ar Berfformiad y Llwybr Canser Sengl, metrigau ansawdd llawfeddygol ac oncolegol a data goroesi. Bydd yr ail gam hwn yn cael ei gwblhau yn ystod ail hanner 2022.