Neidio i'r prif gynnwy

Fideo cymorth diathetig yn helpu cleifion Cymru sy'n byw gyda chlefyd cronig llywio eu dewisiadau dietegol

Gall cleifion yng Nghymru sy'n byw gyda chlefyd llid y coluddyn nawr wylio fideo byr i'w helpu i benderfynu pa fwydydd i'w bwyta, beth i'w osgoi a beth i'w wneud os bydd eu cyflwr yn fflamio i fyny.

 

Mae Clefyd Llidus y Coluddyn (IBD) yn derm ymbarél i ddisgrifio nifer o gyflyrau cronig gastrig, a'r ddau fwyaf cyffredin yw Clefyd Crohn a Llid Briwiol y Coluddyn.

Mae'r afiechyd yn cael effaith negyddol iawn ar ansawdd bywyd pobl sy'n dioddef ohono. Mae'r symptomau'n para am oes a gall cyflyrau iechyd hirdymor difrifol ddod gyda nhw.

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael diagnosis yn eu 30au.

Fel rhan o'n portffolio Gofal sy'n Rhoi’r Person yn Gyntaf, roedd y Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r offeryn addysgu cleifion hwn a'r gobaith yw y bydd yn helpu i wella llythrennedd iechyd cleifion sydd â IBD.

 

Cafodd y fideo ei gynhyrchu yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae’n cael ei gynnal ar blatfform Pocket Medic er mwyn galluogi mynediad teg i gleifion ledled Cymru.

 

Dywedodd Barney Hawthorn, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer IBD:

“Mae cleifion â chlefyd llid y coluddyn (Clefyd Crohn neu lid briwiol y coluddyn) yn cymryd bod beth maen nhw'n ei fwyta yn bwysig i reoli llid eu perfedd, ac mae hynny’n ddealladwy. Nod y fideo hwn, sydd wedi cael ei ddatblygu gan grŵp o ddietegwyr, yw rhoi gwybodaeth syml i gleifion am beth i'w fwyta pan fydd eu clefyd yn cael ei reoli'n dda a sut i fwyta pan mae eu symptomau’n gwaethygu. Mae'n chwalu'r mythau bod deietau cyfyngol arbennig yn hanfodol i reoli neu wella IBD, ac mae'n rhoi safbwynt cyffredinol ar sut y dylen nhw fwyta. 

Dylid cynnig yr adnodd hwn i bob claf newydd. I'r rhai sydd â chymhlethdodau IBD penodol sy'n gysylltiedig â deiet, bydd angen trefnu apwyntiad gyda dietegydd. Ond i'r rhan fwyaf o bobl, mae'r fideo yn darparu canllaw sylfaenol ar sut a beth i fwyta."

Dywedodd Sarah Sleet, Prif Swyddog Gweithredol Crohn's & Colitis UK:

“Mae Clefyd Llid y Coluddyn yn effeithio ar bawb yn wahanol, ond i lawer o bobl, gall beth maen nhw’n ei fwyta effeithio ar eu symptomau.

Mae llawer o ddeietau arbennig ar y rhyngrwyd sy'n honni eu bod yn rheoli neu'n gwella Clefyd Crohn neu Lid Briwiol y Coluddyn, ond yn anffodus does dim llawer o dystiolaeth i ddweud eu bod nhw’n gweithio.

Mae'r fideo newydd hwn yn adnodd ardderchog i helpu pawb â Chlefyd Crohn a Llid Briwiol y Coluddyn wneud dewisiadau deallus ynghylch bwyta'n dda.

Cofiwch mai chi sy'n adnabod eich corff orau, ac efallai na fydd beth allai weithio i un person yn gweithio i rywun arall. Gallwch bob amser siarad â'ch tîm IBD am ragor o gyngor a chymorth.”

 

Diolch yn fawr i Rhian Booth, Dietegydd Gastroenteroleg arbenigol; Claire Constantinou, Arweinydd Deieteg Ysbyty Athrofaol Cymru; Mia Donovan, Dietegydd Gastroenteroleg; Lloyd Roberts, Dietegydd Gastroenteroleg a Dr Barney Hawthorne, Gastroenteroleg Ymgynghorol am ddatblygu cynnwys y fideo hwn a sicrhau bod y wybodaeth sy’n cael ei rannu yn gallu helpu cleifion i ddeall a rheoli eu cyflwr.

 

I weld y fideo cliciwch yma https://medic.video/IBD neu defnyddiwch y cod QR isod.