Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwerth mewn Iechyd yn rhoi Cymru ar y map fel arweinydd byd-eang wrth drawsnewid systemau iechyd

Mae Gwerth mewn Iechyd yn rhoi Cymru ar y map fel arweinydd byd-eang o ran trawsnewid systemau iechyd

Mae’n bleser gennym gadarnhau’r cyhoeddiad heddiw bod ein rhaglen yn rhan o Hyb Arloesi Byd-eang y Glymblaid Fyd-eang ar gyfer Gwerth mewn Gofal Iechyd.

Mae'r Glymblaid Fyd-eang ar gyfer Gwerth mewn Gofal Iechyd yn un o fentrau Fforwm Economaidd y Byd, a grëwyd i fod yn llwyfan cyhoeddus-preifat ar gyfer cydweithredu byd-eang, aml-randdeiliaid i ddatblygu arloesedd a hyrwyddo gwaith ar y cyd sy'n cyflymu'r broses o drawsnewid systemau iechyd sy’n seiliedig ar werth.

Rydym wedi bod yn gwneud enw i ni ein hunain yn rhyngwladol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Bydd y bartneriaeth ddiweddaraf hon gyda Fforwm Economaidd y Byd yn cadarnhau ein henw da ymhellach ac yn sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran trawsnewid systemau iechyd byd-eang am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd ein Harweinydd Clinigol Cenedlaethol, Dr Sally Lewis:Mae gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth yn cael ei ystyried yn gynyddol yn rhan o’r ateb i’r benbleth fyd-eang o ran sut rydym yn gofalu’n effeithiol am boblogaeth lle mae mwy a mwy o bobl yn byw gyda chlefydau cronig hirdymor ac felly anghenion gofal iechyd cynyddol tra’n rheoli mwyfwy o gostau cysylltiedig. Mae’n rhaid i ni wella’r canlyniadau sydd bwysicaf i bobl, a chreu cynaliadwyedd gofal iechyd a thegwch trwy fodelau gofal newydd ar yr un pryd.”

“Mae heddiw’n garreg filltir ryfeddol yn y cynnydd tuag at sicrhau bod gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth yn realiti. Bydd yr hybiau arloesi yn chwarae rôl hanfodol wrth ysgogi’r gwaith o drawsnewid systemau iechyd byd-eang.” - Arnaud Bernaert, Pennaeth, Llunio Dyfodol Iechyd a Gofal Iechyd, Fforwm Economaidd y Byd.

Bydd y Glymblaid Fyd-eang ar gyfer Gwerth mewn Gofal Iechyd yn caniatáu i ni fod yn rhan o lwyfan i rannu dysgu, datblygu arfer gorau effeithiol ac arwain y gwaith o ddatblygu systemau iechyd sy'n seiliedig ar werth yn fyd-eang.