Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth i godi ymwybyddiaeth o Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn cael ei gwneud yn swyddogol

Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) wedi'i lofnodi rhwng Canolfan Gwerth Cymru mewn Iechyd ac Academi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth Prifysgol Abertawe.

Mae'r ddau sefydliad wedi gweithio gyda'i gilydd ers nifer o flynyddoedd i hybu dealltwriaeth a gweithrediad Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth (VBHC) yng Nghymru. Mae'r ddau wedi cydweithio ar enw da Cymru fel arweinydd yn VBHC yn rhyngwladol.

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gwneud y bartneriaeth gydweithredol hon yn swyddogol.

Mae'r Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n rhan o Academïau Dysgu Dwys Cymru, yn cynnig nifer o gyrsiau addysgol yn ogystal â gwasanaethau ymchwil ac ymgynghori yn VBHC. Mae cyrsiau yn cynnwys:

Mae Canolfan Gwerth Cymru mewn Iechyd yn rhan o GIG Cymru a dyma’r rhaglen genedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar ddarparu arweinyddiaeth, arbenigedd, cymorth a chyfeiriad strategol i wreiddio VBHC ar draws y GIG yng Nghymru.

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn golygu y bydd y ddau sefydliad yn parhau i gydweithio ar y pedwar maes allweddol, sef addysg, ymchwil, ymgynghoriaeth a phartneriaethau diwydiant a chyfathrebu.

Mae Dr Sally Lewis yn gyfarwyddwr y Ganolfan Gwerth Cymreig mewn Iechyd a dywedodd: “Er ein bod ni wedi gweithio ochr yn ochr â Hamish a’i dîm yn yr Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth ers nifer o flynyddoedd, mae’n wych gwneud y bartneriaeth hon yn swyddogol.

“Rwy'n falch iawn o lofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd yn y tair blynedd nesaf. Mae ymrwymiad clir yma, gan y ddau ohonom, i barhau i gydweithio ar bob agwedd ar Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Bydd hynny o fudd i GIG Cymru a thu hwnt.”

Dywedodd yr Athro Hamish Laing, Cyfarwyddwr yr Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth:

“Mae Academi VBHC wedi bod mewn cydweithrediad agos â Chanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru ers ei sefydlu ac mae’n ei helpu i gyflawni elfennau pwysig o strategaeth genedlaethol VBHC yng Nghymru, yn ogystal â chryfhau cyrhaeddiad byd-eang. Rwy’n falch iawn o weld ein perthynas yn cael ei chadarnhau drwy’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth fel y gallwn gyda’n gilydd gyflawni’r gwerth a’r effaith fwyaf.”

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am waith Academi VBHC ym Mhrifysgol Abertawe ar ei gwefan - Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth - Prifysgol Abertawe .