Na, mae opsiynau eraill. Os yn bosibl, byddai'n well gennym pe baech yn gwneud yr arolwg ar-lein.
Os nad yw hynny'n bosibl, gallwch ofyn am fersiwn papur o'r arolwg gan ddefnyddio'r cerdyn post rhagdaledig i ofyn am gopi papur neu wneud yr arolwg dros y ffôn drwy ffonio ein llinell gymorth am ddim ar 0800 151 0192.
Os byddwch yn gofyn am gopi papur, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis eich dewis iaith ar y cerdyn post a ddarparwyd i'n helpu i osgoi anfon fersiynau dwyieithog gan ei fod yn arolwg hir iawn.