Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n digwydd i'r wybodaeth y byddaf yn ei rhoi i chi?

Drwy gwblhau'r arolwg, mae'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni yn mynd i ddau dîm gwahanol.

Yn gyntaf, bydd tîm yr arolwg rhyngwladol (OECD PaRIS) yn derbyn yr atebion ar gyfer y rhai sy'n bodloni eu meini prawf cymhwysedd - oedolion dros 45 oed, â chyflwr cronig sydd wedi gweld eu meddygon teulu yn y chwe mis diwethaf.  Os na fyddwch yn bodloni'r meini prawf hyn ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei chynnwys yn y meincnod rhyngwladol hwn. Ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei rhoi iddyn nhw a allai ddatgelu pwy ydych.  Byddan nhw’n defnyddio’r wybodaeth honno i lunio eu hadroddiad rhyngwladol lle byddwn yn gallu cymharu Cymru â 19 o wledydd eraill ledled y byd.

Yn ail, bydd holl wybodaeth yr ymatebwyr yn mynd i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).  Byddan nhw’n derbyn copi o'r holl wybodaeth ar ffurf adnabyddadwy.  Fodd bynnag, gallwn eich sicrhau mai dim ond at ddiben gwella systemau a gwasanaethau GIG Cymru ac ar gyfer polisïau'r GIG yn y dyfodol y caiff hwn ei ddefnyddio.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y byddwn ni’n defnyddio eich data, cliciwch yma i edrych ar y polisi preifatrwydd.