Drwy wneud yr arolwg hwn, byddwch yn cael dweud eich dweud, ac yn cyfrannu at ddeall beth sydd ei angen i wneud newidiadau neu i ddarparu mwy o adnoddau.
Dylem ddweud dydy hyn ddim yn arolwg ar “beth yw eich barn am eich meddyg teulu”. Mae’n ymwneud â’ch profiadau o ddefnyddio GIG Cymru, gyda ffocws penodol ar y gofal a gewch gan yr holl staff yn eich meddygfa. Bydd eich atebion yn ein helpu i ddysgu mwy am eich iechyd cyffredinol, ac ansawdd bywyd a sut mae'r gwasanaethau a ddarparwn yn diwallu eich anghenion.
Bydd y wybodaeth hon yn creu darlun i ni o sut beth yw bywyd i chi a chleifion ledled Cymru. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gallu nodi beth sydd ei angen i gael canlyniadau sy'n bwysig i chi.
Nid yn unig y byddwch chi yn elwa o gymryd rhan yn yr arolwg hwn, ond hefyd ein cleifion yn y dyfodol – eich plant, plant eich plant.
Byddwch yn rhan o wneud gwahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod.