Dylai'r arolwg gymryd tua 25 munud i chi ei gwblhau.
Mae hyn oherwydd ei fod yn arolwg rhyngwladol, a bydd cleifion yn yr holl wledydd sy'n cymryd rhan yn ateb yr un cwestiynau. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut rydym ni’n cymharu â gwledydd eraill ar draws y byd.
Mae mwyafrif y cwestiynau yn rhai amlddewis, felly byddwch yn gallu dewis pa un sy'n berthnasol i chi fwyaf.