Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sy'n cymryd rhan yn y darn hwn o waith.
Byddwn ni’n gallu meincnodi ein hunain yn erbyn 19 o wledydd eraill ledled y byd. Sut mae gwledydd eraill yn helpu eu cleifion? Oes unrhyw beth y gallwn ei ddysgu ganddyn nhw? Mae hwn yn gyfle gwych i Gymru ddysgu am y gofal a ddarparwn a helpu i lywio barn well yn rhyngwladol ar y ffordd orau o ofalu am bobl â chyflwr cronig sy’n cael eu rheoli gan feddygfeydd.