Mae'r arolwg hwn wir yn bwysig. Mae'n ymwneud â chi ac am y GIG yng Nghymru.
Rydyn ni’n deall yn iawn ei bod yn debygol y bydd gofyn i chi wneud llawer o arolygon. Serch hynny, mae'r un hon yn wahanol.
Er mwyn ceisio gwneud pethau’n well yn y GIG yng Nghymru, mae angen inni ddeall beth sy’n digwydd yn awr. Mae angen inni ddeall sut beth yw pethau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau GIG Cymru.
Dim ond drwy ofyn i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’r GIG y gallwn wneud hynny, a dyna lle rydych chi’n dod i’r adwy.
Bydd eich atebion mor bwysig i ni oherwydd byddwn yn cael gwell dealltwriaeth o anghenion iechyd a gofal poblogaeth Cymru.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni i weithio allan sut allwn ni wneud pethau'n well i chi, eich teulu a'ch cymuned.
Mae'n golygu y bydd gennych chi lais pwysig yn beth sy’n digwydd yn y dyfodol.