Am yr un rhesymau ag uchod mewn gwirionedd. Er mwyn gwneud pethau'n well, mae angen i ni ddeall sut beth yw pethau nawr. I wneud hynny, mae angen i ni glywed gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau GIG Cymru, er enghraifft cael apwyntiad â meddyg teulu.
Dyna pam rydyn ni’n gofyn i chi gymryd rhan.
Dydyn ni ddim yn gofyn i bawb yng Nghymru, gan ei bod yn bwysig i ni gael safbwynt cynrychioliadol a chytbwys. Rydyn ni wedi gofyn i 201 o feddygfeydd yng Nghymru gymryd rhan, a gafodd eu samplu ar faint eu meddygfa a pha drefi, dinasoedd neu bentrefi y maen nhw’n eu gwasanaethu ac ati. Rydych wedi’ch cofrestru yn un o’r meddygfeydd hynny, felly dyna pam rydym yn awyddus i glywed am eich profiadau.