Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion i wella gofal ar gyfer cleifion â Syndrom Coluddyn Llidus

Dydd Iau 11 Tachwedd 15:00 - 16:00

Session synopsis: Gall symptomau Syndrom Coluddyn Llidus (IBS) effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd y claf. I lawer o bobl, nid yw newidiadau deietegol yn y lle cyntaf yn ddigonol i wella symptomau. Mae peilot bach ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn darparu cyngor arbenigol gan gynnwys y deiet ‘low FODMAP’ hynod lwyddiannus ac yn defnyddio platfform digidol i gasglu mesurau canlyniadau a phrofiad cleifion (PROMS a PREMs). Bydd y cyflwyniad yn crynhoi sut mae'r peilot hwn wedi'i weithredu ac yn dangos sut y gall defnyddio mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMS) digidol a mesurau profiad a adroddir gan gleifion (PREMs) gynyddu effeithlonrwydd a gwneud defnydd gwell o adnoddau clinigol cyfyngedig.

Siaradwyr: Sioned Jones

Hyd: 60 munudau