Neidio i'r prif gynnwy

Gallu PROMs i ryngweithredu a semanteg - sut mae PROMs yn arwain y ffordd o ran cyflwyno model pensaernïaeth agored ar gyfer GIG Cymru

Dydd Iau 11 Tachwedd 14:00 - 15:00

Session synopsis: Mae GIG Cymru wedi datblygu ei arbenigedd o ran casglu PROMs digidol dros y pum mlynedd diwethaf, gan symud o gynlluniau peilot yn ymwneud ag un afiechyd gan ddefnyddio llwyfannau annibynnol at economi gymysg o amodau a llwyfannau sy'n symud yn gyflym ac yn ehangu ar draws y system.

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar rywfaint o'r gwaith technegol sydd ar y gweill i fabwysiadu modelau pensaernïaeth agored i gefnogi casglu PROMs a llif data ar draws ecosystemau digidol.

Bydd y siaradwyr arbenigol yn disgrifio sut mae sawl darn o waith (yn genedlaethol ac yn lleol) sy’n amrywio o safonau data i ddatblygu APIs a modelu data yn cael eu cymhwyso at gasglu data PROMs, i gefnogi pensaernïaeth agored yn unol â strategaeth ddigidol GIG Cymru.

Siaradwyr: Said Shadi, Stephen Frith, Angela Parratt

Hyd: 60 munudau